Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Tachwedd 2020
Amser:
09.30 – 12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6534
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Senedd: |
Helen Mary Jones AS (Cadeirydd dros dro) Mick Antoniw AS John Griffiths AS Carwyn Jones AS David Melding AS |
Tystion: |
Dylan Foster Evans, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru Dyfan Sion, Director of Policy and Research, Comisiynydd y Gymraeg Guto Brychan, Clwb Ifor Bach Samantha Dabb, Le Pub Robat Idris, Cymdeithas yr Iaith Gary Lulham, Sin City Club |
Staff y Pwyllgor: |
Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Rhys Morgan (Clerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Cafwyd datganiad o fuddiant gan Mick Antoniw AS: mae ei fab yn weithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol.
2 Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040
Trafododd yr aelodau effaith y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gyda'r tystion. Roedd saib byr yn y ffrwd darlledu byw.
3 COVID-19: effaith y pandemig ar gerddoriaeth fyw
Trafododd yr aelodau effaith y cyfyngiadau symud gyda thystion.
4 Papur(au) i’w nodi
Nododd yr Aelodau y papur.
4.1 Gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymorth i ddiwylliant, treftadaeth a newyddiaduraeth
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Cytunodd yr Aelodau i’r cynnig.
6 COVID-19: effaith y pandemig ar y sector celfyddydau - sesiwn i drafod tystiolaeth gan randdeiliaid
Cytunodd yr aelodau i ohirio'r eitem hon ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
7 Pwy sy'n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus? Ystyried y camau nesaf
Cytunodd yr aelodau ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer clywed tystiolaeth lafar ac ysgrifennu adroddiad.
8 Ôl-drafodaeth breifat
Cytunodd yr aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gydag argymhellion ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Gymraeg.
Nododd yr aelodau y bydd y Cadeirydd yn cwrdd â gweithwyr llawrydd yn sector y celfyddydau ar 20 Tachwedd i drafod effaith y pandemig.